Cwestiynau Cyffredin Mewngofnodi

 Fotogalerie Vltava Yacht

 
Rhestr Llyfrau Lluniau Lluniau mwyaf newydd Sylwadau diwethaf Edrychwyd arno fwyaf Gradd uchaf Ffefrynnau Chwilio
 

Cwestiynau Cyffredin

Tabl cynnwys

Cyffredinol

Symud o gwmpas y safle


 

Cyffredinol

Cwestiwn: Sut mae mewngofnodi?
Ateb: Cer i "Mewngofnodi", llenwa'r bylchau gyda dy enw defnyddiwr a chyfrinair, a rhoi tic yn y blwch "Cofia fi'r tro nesaf" os wyt ti eisiau mewngofnodi'n syth bob tro. PWYSIG: Rhaid galluogi cwcis a rhaid peidio dileu'r cwci o'r safle hwn cyn bod "Cofia fi'r tro nesaf" yn gweithio.
 
 
Cwestiwn: Alla i ddim mewngofnodi. Pam?
Ateb: Wnes di gofrestru a rhoi clec i'r ddolen ges di mewn ebost? Mae'r ddolen yn gwneud dy gyfri'n weithredol. Cysyllta â'r gweinyddwr os yw dy broblem mewngofnodi'n parhau.
 
 
Cwestiwn: Beth os wna i anghofio cyfrinair?
Ateb: Os oes gan y safle ddolen "Wedi anghofio cyfrinair" defnyddia hi. Fel arall, cysyllta â'r gweinyddwr am gyfrinair newydd.
 
 
Cwestiwn: Beth os ydw i wedi newid fy nghyfeiriad ebost?
Ateb: Mewngofnoda a newid dy gyfeiriad ebost drwy roi clec i "Fy mhroffil"
 
 
Cwestiwn: Sut mae cadw llun yn "Ffefrynnau"?
Ateb: Clicia ar y llun a wedyn ar y ddolen "gwybodaeth ffeil" (Picture information); sgrolia lawr i'r wybodaeth a rho glec i "Ychwanegu at ffefrynnau". Efallai na fydd y gweinyddwr wedi dewis gwneud "gwybodaeth ffeil" yn weithredol. PWYSIG: Rhaid galluogi cwcis a rhaid peidio dileu'r cwci o'r safle hwn..
 
 
Cwestiwn: Sut mae graddio ffeil?
Ateb: Clicia ar un o'r bawdluniau a cher i'r gwaelod i ddewis gradd.
 
 
Cwestiwn: Sut mae ychwanegu sylwadau at lun?
Ateb: Clicia ar un o'r bawdluniau a cher i'r gwaelod i ychwanegu sylw.
 
 
Cwestiwn: Sut mae anfon llun?
Ateb: Cer i "Anfon llun" a dewis y llyfr lluniau i anfon y llun iddo, rho glec i "Pori" neu "Browse" (mae'n bryd i ti ddechrau defnyddio porwr Cymraeg!) a chwilia am y ffeil rwyt ti am anfon, wedyn rho glec i "agor neu open" (gallu di roi teitl a disgrifiad os wyt ti eisiau) a rho glec i "Parhau"
 
 
Cwestiwn: Pa fath o lun alla i anfon, a pha faint?
Ateb: Dewis y Gweinyddwr yw pa fath o ffeil, a pha faint allu di anfon (jpg, png, ayb).
 
 
Cwestiwn: Beth yw cwci?
Ateb: Talp o ddata testun plaen sy'n cael ei anfon o wefan a'i osod ar dy gyfrifiadur. Mae'n gallu storio gwybodaeth, er enghraifft gwybodaeth sy'n dy alluogi i adael a dychwelyd i safle heb orfod mewngofnodi eto, neu wybodaeth am ddewisiadau iaith.
 
 
Cwestiwn: Ble alla i gael gael copi o'r meddalwedd hwn?
Ateb: Mae Coppermine yn Oriel Aml-gyfrwng rhad ac am ddim ryddhawyd dan Trwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU (TGG GNU). Mae'n cynnwys llawer o nodweddion ac yn gweithio ar systemau gwahanol. Cer i wefan Coppermine i gael gwybod mwy a'i lwytho i dy gyfrifiadur.
 
 

Symud o gwmpas y safle

Cwestiwn: Beth yw "Rhestr Llyfrau Lluniau"?
Ateb: Mae hwn yn dangos popeth yn y categori rwyt ti ynddo, gyda dolen i bob llyfr lluniau. Os nag wyt ti mewn categori, mae'n dangos yr oriel gyfan gyda dolen i bob categori. Gall bawdlun fod yn ddolen i'r categori.
 
 
Cwestiwn: Beth yw "Anfon llun"?
Ateb: Drwy roi clec i hwn fe allu di anfon llun i oriel neu lyfr lluniau o dy ddewis di. Y gweinyddwr sy'n penderfynu pa fath a ffeil a pha faint all hi fod, a phwy sydd â'r hawl i anfon lluniau i ble!.
 
 
Cwestiwn: Beth yw "Lluniau mwyaf newydd"?
Ateb: Mae'n dangos y lluniau diweddaraf i gael eu hanfon i'r safle.
 
 
Cwestiwn: Beth yw "Sylwadau diwethaf"?
Ateb: Mae'n dangos y sylwadau diweddaraf gyda'r lluniau sy'n cydfynd â nhw.
 
 
Cwestiwn: Beth yw "Edrychwyd arno fwyaf"?
Ateb: Mae'n dangos y lluniau mae defnyddwyr wedi edrych arnyn nhw fwyaf.
 
 
Cwestiwn: Beth yw "Gradd uchaf"?
Ateb: Mae'n dangos y ffeliau sydd wedi cael y graddau uchaf gan ddefnyddwyr (e.e: os yw pump defnyddiwr yn rhoi gradd o : cyfartaledd gradd y ffeil fydd ; byddai cael pump defnyddiwr yn rhoi gradd o 1 i 5 (1,2,3,4,5) hefyd yn creu cyfartaledd o .) Mae'r graddau'n mynd o best (gorau) i worst (gwaethaf).
 
 
Cwestiwn: Beth yw "Ffefrynnau"?
Ateb: Mae defnyddiwr yn gallu creu rhestr o'i hoff luniau, ac mae gwybodaeth am rhain yn cael eu cadw mewn cwci. Mae modd eu llwytho lawr wedyn ar ffurf ffeil ZIP os yw'n dewis.
 
 

 
 
 
 
 
 
 
 
 

Dewis dy iaith: